Canol Tymor (a mwy o draethodau…)

Fel mae’r teitl yn dangos, mae hi nawr ychydig dros hanner ffordd drwy’r tymor ac mae’n amser i’r gwaith ail-ddechrau.  Ar ol i’r arholiadau orffen a’r tymor newydd o ddarlithoedd a seminarau gychwyn, dychwelais i’r patrwm hwn o waith.  Ar y cyfan mae’r tymor yma wedi bod llai prysur a ‘hectic’ na’r un diwethaf; mae’n edrych fel bod pawb wedi dod dros cyffro cyrraedd y Brifysgol.  Ond dyw hwn ddim yn golygu bod yr amseroedd da wedi gorffen, dim o gwbl!  Gyda’r 6 Gwlad yn cadw penwythnosau pawb yn brysur a’r wythnos ei hun wedi neilltuo i newid y ‘Fantasy Team’ 6 Gwlad ar gyfer pwy sy’n cael hawliau brolio Pantycelyn, mae dal digon o hwyl a chymdeithasu yma.

Un o’r digwyddiadau mwyaf hwyl yn yr wythnosau dwethaf oedd yr Eisteddfod Rhyng-Golegol yng Nghaerdydd.  Yn debyg iawn i Eisteddfod traddodiadol (ond am y bar sydd ar agor o 10 y bore i 2 yr hwyr!) roedd yr eisteddfod yn brofiad ardderchog.  I’r rhai sydd ddim yn gwybod, yr eisteddfod ‘rhyng-gol’ yma yw cyfle i Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Abertawe a’r Drindod i gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cystadleuthau sydd mor eang a ’sketch’ gomedi, Cor a Dawnsio Gwerin gyda cystadlaethau chwaraeon fod r y dydd Gwener!  Mae hi’n hynod o hwyl cymdeithasu a phobl newydd o brifysgolion gwahanol tra bod allan gyda’ch ffrindiau chi: profiad i gofio yn sicr.

Er yr hwyl yma rydw i ar hyn o bryd yn ymchwilio ar gyfer fy nhraethodau ac am rhyw rheswm mae fy holl ddyddiadau cau wythnos nesa felly (yn wahanol i fy ffrindiau i :@) felly mae’r wythnos nesa mynd i fod yn un prysur…

  • Share/Bookmark

Diwedd arholiadau!

Yn gyntaf, mae rhaid i mi ymddiheurio am fy absenoldeb hir o’r blog yma; roedd traethodau diwedd tymor dwetha wedi neud i mi anghofio am y blog yma a wedyn daeth Nadolig ac arholiadau yn syth ar ol, felly sori.

I fod yn onest, does dim byd wir wedi digwydd yn yr amser yna ond am gwaith neu gorffwyso. Roedd disgwyl i mi neud traethawd i bob modiwl roeddwn yn astudio (3) ac roedden nhw i fod bod 2,500 o eiriau yr un. Y peth sy’n wahanol am draethodau Prifysgol a rhai ysgol yw’r ffaith bod angen cyfeiriadau a llyfryddiaeth. Mae hwn yn golygu bod defnyddio y gwybodaeth rydych chi’n casglu yn y seminarau a darlithoedd ddim yn ddigon sy’n golygu bod angen darllen sawl pennod neu erthygl i gael y gwybodaeth. Mae’n cymryd tua 3 neu 4 diwrnod i orffen traethawd o’r darllen cyntaf i’r frawddeg olaf.

Roedd arholiadau’r Brifysgol hefyd yn brofiad newydd i mi. Yn lle troi lan i neuadd yr ysgol fel blwyddyn dwetha, roedd angen gwirio pa leoliad oedd fy arholiad. O’n i di clywed digon o ‘horror stories’ o fyfyrwyr hyn a oedd yn gwybod am bobl oedd di troi lan i’r lleoliad anghywir i neud yn siwr bydd yr un peth ddim yn digwydd i fi! Un peth oedd yn wahanol am yr arholiadau fan’yn oedd y ffaith eich bod yn gallu gadael yr arholiad ar ol i chi orffen (ond am y 45 munud cyntaf a’r 15 munud olaf).

Ar y cyfan, aeth fy arholiadau i’n iawn ond bydd rhaid gweld y canlyniadau cyn i fi allu gweud hwna’n hollol ddiogel! Mae gwaith yr ail semester yn dechrau heddi felly dyw’r toriad o’r gwaith ddim yn un rhy hir.

  • Share/Bookmark

Clybiau a Gwaith

Er bod fy mhlogiau hyd yn hyn wedi cynnwys dim byd ond am grynodeb am fy mhrofiadau yn yfed yn Aber, mae yna wait hi neud! Roedd fy nhraethawd cyntaf i fod mewn erbyn diwedd Hydref fel rhan o’r modiwl ‘Cyflwyniad i Hanes’ (sy’n swnio mor hawdd a beth yw e) ac ar ol trefnu cyfarfod gyda’r arweinydd seminar i drafod adborth y traethawd roedd hi’n amser i ddechrau ar y traethodau eraill.
Y modiwlau yr wyf wedi cymryd y tymor yma oedd Cyflwyniad i Hanes (gorfodol) ‘Britain and the First World War’ a ‘War, Strategy and Intelligence’ (modiwl Gwleidyddiaeth Ryngwladol). Rhoddais i’r traethawd ‘Britain…’ i mewn mor hwyr a phosib ar y dyddiad cau sef 4.30. Nid wyf wedi cael hi yn ôl eto felly dymunwch lwc i mi fy mod yn gwneud yn dda ynddo fe! Mae’r traethawd ‘War…’ i fod mewn erbyn dydd Llun. I fod yn deg, er fy mod yn achwyn drwy’r amser am orfod gwneud y gwaith yma, mae lefel gwaith Aberystwyth yn un eithaf isel o gymharu â phrifysgolion eraill pan rwy’n trafod â fy ffrindiau.
Rydw i hefyd yn brysur yn cymryd rhan yn fy nghlybiau. Rydw i’n ysgrifennu hwn yn gorffwyso wedi curo fy wrthwynebwr cyntaf mewn gem o tenis tra’n cymryd rhan yng nghyngrair y clwb tenis. Ac mae ‘social’ tenis bob dydd mercher sydd wastad yn hwyl (‘Pub Golf’ wythnos yma) felly fi wiry n mwynhau y tenis. Fi dal yn cymryd rhan yn y ‘dodgeball’ o dro i dro ond yn anffodus doedd dim amser gyda f i barhau gyda’r dadlau oherwydd amser.

  • Share/Bookmark

Rhyng-gol

Rwy’n siwr byse mam, petai hi yn darllen hwn, yn gofidio dros y ffaith fod pob blog fi’n ysgrifennu yn ymwneud ag yfed ond yn anffodus fydd rhaid i mi ei siomi unwaith eto wrth i mi son am y ddawns rhyng-gol.
Mae hwn yn ddigwyddiad flynyddol wrth i fyfyrwyr Cymru gael cyfle i deithio i (Aberystwyth oedd hi tro yma) brifysgol arall yng Nghymru. Fel y rhybuddiais ar ddechrau’r blog, mae hwn yn esiampl arall o bawb yn mynd allan a, erm, meddwi!
Mae rhai o’r myfyrwyr yn dod lan ar y Dydd Gwener i gael profiad cynnar o dafarndai Aberystwyth ond mae’r rhan helaeth yn dod lan ar y Dydd Sadwrn sydd pan mae’r gig ymlaen. Y prif berfformwyr ar dydd Sadwrn oedd Gwibdaith Hen Fran a Tebot Piws. Wrth gysidro fod fy rhieni i yn hoff o gerddoriaeth Tebot Piws, sain gwybod pam oeddwn i i fod i hoffi nhw ond prynais i docyn beth bynnag.
Roedd hi’n noson wych i fod yn onest ac roedd hi wir yn hwyl i gwrdd a’r holl bobl o brifysgolion arall Cymru; tebyg iawn i ‘freshers’ yn yr agwedd yna. Ond nid oedd y diwrnod yn garedig iawn ar fy nghyfrif banc i gyda prynnu diodydd o 2 y prynhawn i 2 y bore ddim yn fuddiol o gwbl!
Rwy’n syleddoli nid wyf yn son llawer am lefel gwaith y brifysgol. Mae gen i tua 1 darlith y dydd a 3 seminar yr wythnos. Ar gyfer y darlithau does dim angen cwblhau unrhyw waith cartref, ond mae yn gwaith i gwblhau (fel arfer darllen a chymryd nodiadau am oddeutu 3 neu 4 pennod am rhyw destun penodol) ar gyfer y seminarau sydd yn cynnwys tua 10 person felly mae hi eithaf amhosib cuddio os dydych chi heb baratoi!

  • Share/Bookmark

Nol i Gaerdydd

Fel arfer dyw rhedeg am y bws ddim rhy wael.  I fod yn onest, mae’n rhywbeth mae pob person ifanc  siwr o fod gorfod neud bob tro ma’ nhw eisiau dal y bws ond y tro’ma roedd hi bach yn wahanol.  Gan o’n i’n mynd yn ôl i Gaerdydd y penwythnos sydd newydd fynd (a bod yr uffernol TrawsCambria yn gadel am rhywbeth fel 6 yb neu 12.50 y pnawn a dim mwy) odd hi’n hanfodol bo’ fi’n cyrraedd arhosfan bws  ar amser.  Dyna pam – i unrhyw un oedd digwydd bod yn ardal Aberystwyth – roeddwn yn edrych fel rhyw ffŵl yn rhedeg o Bantycelyn i’r gorsaf tren (dyna lle ma’r bws).  Roedd y ffaith fod kitbag enfawr llawn dillad (gwerth 3 llwyth mewn peiriant golchi dillad!) yn hongian ar fy ysgwydd ddim yn helpu if y gyrraedd yn gyflymach nac yn gwneud i mi gadw sgrap o urddas.  Na, doedd dim urddas yn perthyn i’r siwrne yma o gwbl.

Rwy’n siwr eich bod chi’n falch o glywed  fy mod i wedi dal y bws a bod eich blogiwr yn saff yn ôl yn Aberystwyth nawr.  Roedd hi’n beth agos i mi oroesi’r daith i Gaerdydd i fod yn onest.  Mae’r TrawsCambria yn ‘soul-sapping’ i fod yn onest.  Roeddwn i’n hynod o ffodus i gael y sedd olaf ar y bws ond nid oedd hwn yn gwella pedwar awr a hanner o dymhereddau a oedd yn mynd o’r un eithaf i’r llall a phobl drewllyd a diffyg lle i’r coesau.  Ond roedd fy nghwynion yn cael ei hanwybyddu gan fy mam a oedd ddim rhy bles gyda fy anrheg caredig sef y llwyth o olch iddi gyflawni erbyn dydd sul.

Y peth gorau am y penwythnos oedd buddugoliaeth Scarlets dros y Gleision nos Wener  (ie fi’n gwbod bo’ fi’n od yn cefnogi Llanelli yn lle Caerdydd ond dyna ‘ny!) ond fi nawr nôl yn Aberystwyth ac i nôl i’r ddefod dyddiol o seminarau, darlithoedd, cysgu a gwaith!

  • Share/Bookmark

Yr Wythnos Gyntaf

Yn dilyn ‘Wythnos y Glas’, gelwir hwn yn ‘Wythnos y Cwsg’.  Mae meddwi’n rhacs bob dydd a chael tua 5 awr o gwsg y noswaith yn, credwch neu beidio, yn cymryd ei heffaith ar berson! Sy’n arwain at yr wythnos yma.  Wythnos o ddihuno, mynychu cyfarfod ac yna cysgu unwaith eto. Fi’n siwr nid ydwyf yn helpu cael gwared ar ddelwedd o fyfyrwyr fel ‘slackers’ dioglyd gyda ychydig o waith wedi ei daflu mewn o dro i dro. Gyda llawer o’r cofrestru a’r ail-gofrestru (a thrydydd-gofrestru mewn rhai achosion) allan o’r ffordd, roedd disgwyl i ni ddechrau mynychu darlithoedd cyntaf ein modiwlau am y tymor yma.

I fod yn onest roedd y darlithau cyntaf yna yn rai hawdd.  Cyflwyniad i bob modiwl oeddent a doedd dim byd yn haws i brosesu pan mae’ch meddwl dal yn gorffwys ar y gobennydd na manylion am beth roeddwn MYND i astudio ond doedd dim gwaith nawr, diolch byth.

  • Share/Bookmark

Freshers!

Wedi cyrraedd Aberystwyth ar  ddydd Sadwrn, dim ond un peth roedd pawb yn edrych mlan i neud; na, y gwaith papur, ond wythnos y glas!  Fe fydd hi’n cymryd ymdrech ychwanegol gandda’i i gadw’ch diddordeb yn y blog yma gan fod patrwm fy nyddiau yn yr wythnos diwethaf wedi dilyn: codi yn y bore,  ciwio i lenwi ffurflen neu chwech, mynd nol i’r ystafell i gysgu/llenwi mwy o ffurflenni/tacluso, cerdded i’r dafarn erbyn 6.30. Ymddiriwch ynddaf i, mae’r holl broses yn un hynod o lafurus pan yn dioddef o’r noswaith gynt…

A cymaint o hwyl yw’r nosweithiau!  Gyda dylanwad aelodau’r ail a thrydedd flwyddyn mae rhan fwyaf ohonom (y ‘freshers’ neu ‘ffresiars’ os dych chi’n tardduo rhywle yn fwy gogleddol ‘na Aberystwyth!) wedi cael gwerth ein harian a siwr o fod ychydig mwy.  Gyda rhestr o gemau yfed sydd yn hollol anaddas i mi roi manylion penodol amdanynt, mae’n sicr byddaf yn mwynhau’r flwyddyn nesa!

Uchafbwyntiau yr wythnos oedd siwr o fod nail ai’r crôl teulu (lle penodwyd ‘mam’ a ‘tad’ i chi o’r ail flwyddyn a ‘mamgu’ a ‘thadcu’ o’r drydedd gyda’i brïff nhw i gael chi’n hollol feddw.  Roedd afu profiadol y bobl yma yn rhywbeth i ofni felly gyda ychydig bach o gryndod yr oeddwn yn teimlo ar ddechrau’r noson ond mae drop neu ddau o alcohol wastad yn lleddfu hwn nagyw?!  Yn wir, er roedd yna cwpwl o ‘casualties’ yn ein grwp roedd hi’n noson hwyl (ac i fi, un taclus)!

A gyda wythnos y glas ar fin gorffen a’r gwaith ar fin dechrau (dwedodd neb wrtha’i bod angen gweithio yn y brifysgol?!) mae’n sicr byddaf i’n darganfod beth yw’r brofiad o fod yn fyfyrwr go iawn o nawr ‘mlaen.

  • Share/Bookmark