Waw! Mae dwy fis a bron tair wythnos wedi mynd. Dyna ddeuddeg wythnos ac ond chwech ar ôl. Dwi’n dymuno’r gallu i rewi bysau’r cloc neu ymestyn y diwrnodau yn hirach er mwyn gallu cymryd cam yn ôl o bopeth a phinsio fy hunan i sicrhau’r bod hwn yn wirioneddol yn digwydd. Does dim tamaid ohonof sydd yn difaru fy mhenderfyniad. Dwi’n dysgu sgiliau newydd a dwi’n dysgu mwy amdanaf; fel person. Dwi wedi dod yn llawer fwy cymhelliant ac yn gyrru fy hunan i wneud yn dda mewn beth bynnag.

Ers fy mlog diwethaf dwi wedi bod i weld fy ngem gyntaf o hoci iâ gyda’r teulu America ond rhan fwyaf o’r amser doedd gennai ddim cliw o beth oedd yn mynd ymlaen gyda’r rheolau a pam bod rhaid i’r myfyrwyr sefyll i fyny i wylio’r gêm a chydio mewn papur newydd o flaen eu hwynebau pan gyflwynid y chwaraeir o’r tîm arall. Parwyd y gêm am awr; ugain munud ar y tro gyda chwarter awr o frêc rhyngddynt lle fyddai’r merched yn gwneud ryw berfformiad ddawns ac yna ddaeth Freddie a Frieda, y masgotiaid, i sglefrio o gwmpas a chodi llaw ar bawb. Yn yr egwyl ddiwethaf ddaethant a darn o bren oedd yn ffitio tu fewn i’r gôl lle oedd angen anelu’r ddisg ddu mewn i un o dri thwll er mwyn ennill rhestr ddiddiwedd o fwyd. Yn anffodus fe fethodd. Roedd yna hefyd egwyl pum munud yng nghanol y gêm lle’r oedd y plant iau yn dod ymlaen i gasglu unrhyw rew oedd wedi ymgasglu o amgylch y gôl.

Fe wnes i hefyd fynd i fy ail ‘Potluck’ ond y tro yma gyda’r teulu o America, Kathy and Dave lle’r oedd angen i ni gyfarwyddo ein hunan a siarad am le rydyn ni yn dod, beth rydym yn astudio ac os ydym yma am semester neu am flwyddyn. Fe ddaru Global Connection hefyd baratoi noson “World food and fun night” lle baratowyd y myfyrwyr rhyngwladol bryd o fwyd sydd yn draddodiadol o’n gwlad i rannu gyda myfyrwyr rhyngwladol eraill a phobl y gymuned. Fe wnes i baratoi picau bach (gyda chywilydd taw dyma y tro cyntaf) ond ni ddaru nhw droi allan yn iawn oherwydd ddaru rhai ohonyn nhw losgi ac roedden nhw braidd yn rhy feddal (ond doedd neb i wybod) felly pan fyddai nol yng Nghymru dwi’n gobeithio gall nain dangos i mi sut i’w wneud yn iawn.

Mae’r holl weithgareddau uchod wedi bod yn anhygoel oherwydd mae wedi bod yn gyfle i mi ddod i ddeall sut mae America mor wahanol i Gymru. Roedd yn siawns i mi gael profiad ac i ryngweithio gyda phobl o America a’r myfyrwyr rhyngwladol. Mae fy nealltwriaeth o’i diwylliant yn llawer fwy nac ers i mi gyrraedd ac o fewn y wythnos gyntaf cafom ein gwahodd i weithdy addasiad gyda ‘Global Connection’. Dwi’n gwybod fe wnes i gyffwrdd ychydig ar y digwyddiad yma yn fy mlog gyntaf ond dwi’n credu’r bod yn wers mor bwysig i ni gyd. Teimlwyd pawb cyn y gweithdy bod ein dealladwy ar ddiwylliant America yn isel ac fe soniwyd am bethau ychwanegol na feddyliwyd o’r blaen ar ochr academaidd, archebu bwyd, ffonio, cyfarch, arferion, moesau, disgwyliadau ayb. Mae’n rhywbeth mae pawb yn disgwyl i chi wybod neu rydych yn dysgu wrth i chi dyfu. Mae pob gwlad yn wahanol ond er oedd y wybodaeth yn eithaf sylfaenol roedd yn hynod o ddefnyddiol ac yn ddiddorol tu hwnt.

Dyma beth wnaeth ‘Global Connection’ ddysgu ni yn y gweithdy.

Daw cyfarch eich ffrind, teulu neu ddieithr ddod yn naturiol gyda ffordd y dylech wneud a’r ffordd rydych yn penderfynu gwneud. Tra bydd rhai yn penderfynu peidio rhoi cwtsh nes bod yn teimlo’r bod wedi dod i nabod nhw yn well ond os ewch i Sbaen neu i Frasil mae rhoi cwtsh i rywun yn llawer mwy cyffredin. Mae dweud ‘helo’ ac efallai ysgwyd llaw (dibynnu pwy yw’r person) yma yn ddigon ac os gofynnan nhw “Sut wyt ti”? neu ‘Be sy’? (What’s up?) sut ddylech ymateb? Fel arfer dwi’n dweud ‘Dwi’n iawn diolch, sut wyt ti?’, ond ers i rywun ddweud taw dyma ffordd o gyfarch yn hytrach na gofyn cwestiwn dwi dal i bendroni beth yw’r ffordd ore i ymateb. Rhywbeth arall a soniwyd yn y gweithdy yw bod pobl America yn dueddol o ofyn llawer o gwestiynau er mwyn dod i adnabod chi ac os ddwedant nhw y dylech gwrdd rhywbryd yna nid yw’n golygu yn uniongyrchol eu bod nhw am gysylltu gyda’ch.

Fe ddysgont nhw hefyd am gysur emosiynol lle ni ddylech ymddangos yn yr ysbyty neu yng nghartref y person ar ôl damwain / salwch heb alw o flaen llaw neu wedi cael caniatâd ond mae rhan fwyaf yn danfon cerdyn yn hytrach nac ymddangos i fyny yn eu cartref.

Mae disgwyl fod ymddygiad moesol gan bawb wrth ffonio unrhyw un ac felly os nad oes ateb yna ddylech adael neges yn hytrach na ffonio o hyd ac o hyd (mewn gwirionedd caiff hyn i’w hystyried fel bod yn anghwrtais). Fe wneith rhan fwyaf o’r bobl galw yn os gadawch eich manylion ond ni fyddent yn ymateb i’r alwad os nad ydynt yn adnabod y rhif ffôn. Oni bai yn fy ngwaith yn Aberystwyth lle fyddwn yn gadael neges ar beiriant neges y cwsmer nid wyf erioed wedi gadael neges lais i unrhyw un o fy ffrindiau neu deulu oherwydd dwi’n gwybod y bod tueddiad i beidio gwrando neu nid ydynt yn medru gweithio allan sut i wrando nôl ar y neges. Yn bersonol, mae’n well gennai ffonio neu ddanfon neges destun, yna dwi’n gwybod bônt wedi cael neu weld fy neges ac mae fwy o siawns iddyn nhw ddod yn ôl ataf. Mae uchder neu’r tôn eich llais yn bwysig ac ni ddylech weiddi lawr y llinell, ond mae hyn allan o gwrteisi ble bynnag yr ewch. Ni ddylech hefyd ateb eich galwadau ffôn mewn dosbarth neu mewn cyfarfod neu ystafell a phobl eraill ynddo.

Fe ddylai archebu bwyd fod yn debyg iawn i ffordd rydych yn gwneud gartref a rhan fwyaf mae o.  Chi ddylai talu eich pryd o fwyd hyd yn oed os ydych wedi cael eich gwahodd oni bai ei fod yn ddigwyddiad arbennig fel mynd ar ddêt neu yn ben-blwydd ac mae’n angenrheidiol i chi rhoi tâl i’r gweinydd / gweinyddes o 10% i 15%. Fy sialens fwyaf dwi wedi dod ar draws yw pobl sydd methu deall fy archeb oherwydd fy acen Cymraeg cryf.

Awgrymiadau eraill ddaru nhw drafod ond wnâi ddim mynd mewn gormod iddo ond yn hynod o bwysig byddai’r pwnc siarad mewn llefydd cyhoeddus a dyle fod yn ofalus gydag. Gall hyn fod am wleidyddiaeth, crefydd, pwysau (rhywun), oedran ac os welwch ddynes feichiog yna ni ddylech ofyn faint o wythnosau / fisoedd ydi hi. Mae pawb yn hoffi tua hyd fraich o bellter wrth siarad neu fod ganddynt swigen ddychmygol rhyngddynt gan fod siarad yn rhy agos yn medru fod yn deimlad o fygwth (ond dwi’n meddwl fod hyn yn yr un peth lle bynnag ac yr ewch). Gall cwplau cydio dwylo a chusanu mewn ardal gyhoeddus ond fe fyddai yn ddoeth i ffrindiau (yn enwedig merched) i beidio cydio llaw oherwydd fyddai pobl yn amau eich bod mewn perthynas oni bai eich bod chi. Soniwyd y bod hi’n gwrtais i edrych ar y person sy’n siarad ond yn anghwrtais i syllu. Fy mhwynt olaf yw os ydych yn cwrdd am gyfarfod neu am wers yna mae hi’n anghwrtais i fod yn rhy hwyr neu yn rhy gynnar (ryw bum munud cyn neu ar ôl yn dderbyniol a gan amlaf fydd y person rydych am gwrdd yn gadael ar ôl pum munud os ydych yn hwyr i gyfarfod).

Beth bynnag, nid wyf wedi dod ar draws rhai o’r ymddygiadau neu gant eu torri neu addasu (dwi’n aml yn gweld pobl yn gadael y wers i ateb eu galwadau ffôn) ond caiff rhan fwyaf o’r pwyntiau rhestrir uchod eu disgwyl fod pawb yn eu gwneud lle ceir gweddill yw’r ffordd mae’r Americanwyr wedi cael ei magu / dysgu. Yn y ddwy brifysgol mae’r polisi o roi gwaith i mewn ar amser yn llym ac fe allwch golli marciau os ydi’r gwaith i mewn yn hwyr. I ryw agwedd, teimlaf fod pawb yma ychydig yn fwy achlysurol. Diwrnod o’r blaen pan gyhoeddwyd un o fy narlithydd y dyddiad cau ar gyfer ddarn o waith, ddywedodd y bod yn iawn os yw’r gwaith yn cael ei rhoi fewn ychydig yn hwyr. Nage pwrpas dyddiad cau yw dyle pawb rhoi’r gwaith i mewn ar amser? Efallai fod bywyd ar gampws ychydig yn wahanol i fywyd tu allan. Ond, does gennai i ddim yr ateb ond dwi’n chwilfrydig i ddysgu mwy.

 

 

(Ceir lluniau isod eu tynnu gan Global Connection)

 

 

 

 

Leave a reply

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <s> <strike> <strong> 

required